Skip to main content

Bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer y llety gofal modern newydd yng Nglynrhedynog

Ferndale 2

Ar y cyd â phartner dylunio sydd wedi'i benodi, mae'r Cyngor yn parhau i ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer llety gofal preswyl newydd y cytunwyd arno'n flaenorol ar gyfer Glynrhedynog. Mae gwaith dadansoddi tir cychwynnol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Ym mis Chwefror 2023, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad sylweddol mewn llety gofal o'r radd flaenaf a fyddai'n trawsnewid argaeledd darpariaeth gofal leol, a hynny er mwyn cefnogi pobl hŷn a phobl eraill sy’n agored i niwed a diwallu eu hanghenion a gofynion sy'n newid. Cytunodd Aelodau ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i adeiladu cyfleusterau modern yn ardaloedd Porth, Treorci, Aberpennar, Pentre'r Eglwys a Glynrhedynog.

Mae tir addas wedi'i nodi ar gyfer y cyfleuster newydd yma ar safle hen ffatri Chubb, ger yr ysgol newydd sy'n cael ei hadeiladu ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Er mwyn bwrw ymlaen â'r datblygiad newydd yma, mae'r Cyngor wedi comisiynu Quattro Design Architects i greu'r dyluniad a goruchwylio'r gwaith dadansoddi tir i baratoi ar gyfer y prif gynllun adeiladu, yn amodol ar gael caniatâd cynllunio yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau bod gwaith dadansoddi tir wedi dechrau ar y safle. Dyma gam cyntaf tuag at fwrw ymlaen â datblygu'r cyfleuster yma y mae galw mawr amdano. Ym mis Medi, bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn adroddiad mewn perthynas â gofal preswyl a'r adborth sydd wedi dod i law gan drigolion a rhanddeiliaid ar y Strategaeth Gofal i Oedolion (drafft) a gafodd ei chyhoeddi'n ddiweddar.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae'r angen i foderneiddio a gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn barhaus ar gyfer cymunedau Rhondda Cynon Taf yn flaenoriaeth allweddol. Y llynedd, cytunodd y Cabinet ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i adeiladu llety modern yn ardaloedd Treorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre'r Eglwys – gan adlewyrchu'r newid i anghenion pobl, o gartrefi gofal 'traddodiadol' i lety gofal mwy annibynnol a chymhleth, a hynny ar gyfer cymunedau'r cenedlaethau nesaf.

“Mae'n wych gweld y cam cychwynnol yma o waith yn cael ei gynnal yng Nglynrhedynog, gan ddangos yn glir fod cynnydd i'w weld o ran darparu llety gofal modern newydd sy'n diwallu anghenion trigolion yn y dyfodol. Rwy'n falch bod partner dylunio bellach wedi'i benodi gan y Cyngor a bod gwaith dadansoddi tir cychwynnol ar safle hen ffatri Chubb yn cael ei gynnal.”

Wedi ei bostio ar 15/07/24